Non-Profit - , ,
Mae Urdd Gobaith Cymru yn fudiad cyffrous a deinamig i blant a phobl ifanc. Mae'n darparu amrywiaeth o weithgareddau ar draws Cymru gyfan. Mae swyddogion yn gweithio ym mhob ardal er mwyn sicrhau bod rhaglen lawn o weithgareddau yn cael ei chynnig i blant a phobl ifanc Sefydlwyd yr Urdd ym 1922 i roi cyfle i blant a phobl ifanc i ddysgu ac i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'n rhoi cyfle i ieuenctid Cymru i fyw bywydau byrlymus trwy gyfrwng y Gymraeg gan ddysgu parchu ei gilydd a phobloedd y byd. Mae'n croesawu siaradwyr Cymraeg a dysgwyr. Pwy sy'n aelodau o'r Urdd? Mae 55,000 o blant a phobl ifanc Cymru yn aelodau o'r Urdd. Mae un rhan o dair o'r holl siaradwyr Cymraeg rhwng 8 ac 18 yn aelodau. Mae 30% o'r holl aelodau yn dweud eu bod yn ddysgwyr Mae dros 3,000 o'r aelodau rhwng 16 a 25 mlwydd oed. Enwau cyfarwydd a fu gynt yn aelodau o'r Urdd yw Huw Edwards, y darllenydd newyddion, Bryn Terfel, y canwr byd enwog, a Glyn Wise o'r gyfres Big Brother! Mae gan y mudiad 10,000 o wirfoddolwyr sy'n weithgar dros ben mewn 900 o ganghennau ledled y wlad.
Outlook
MessageGears
UK Fast Hosting
Microsoft Office 365
Rackspace MailGun